Moliant Ifor
1 Ifor avr o fawrwriaeth
2 Deg yw'r fav diagr faeth
3 [86r] Dewraf wyd a gwrddaf gwr
4 dy ddylyn di eiddilwr
7 Myfi yw ffraethlyw ffrwythlawn
8 Maer dy dda mawr yw dy ddawn
9 Ysdewr ystyriawl ydwyd
10 Ystor i'm ysda wr wyd
11 Telais i't wawd tafawd hoyw
12 Telaist i'm fragod dvloyw
13 Rhoist i'm swllt rhyw ystym serch
14 Rhoddaf i't brifenw Rhydderch
15 Kyfarf arf eirf nith weheirdd
16 Kyfaillt a mab aillt y beirdd
17 Kadarn wawr cedyrn wiwryw
18 Kaeth y gler cywaethog lyw
19 Da oedd a syber dy iach
20 Duw a fedd dav vfyddach
21 Wyt i'th fardd pellgardd pwyllgall
22 llywiwr llu nâ'r llaw i'r llall
23 O'm iaith y rhylvniaithir
24 air nid gwael arnad y gwir
27 hyd yr ymdaith dyn aithaf
28 [86v] hyd y try hwyl hy haul haf
29 hyd yr heuir y gwenith
30 a hyd y gwlych hoywdeg wlith
33 hyd y gwyl golwg ddigust
34 hydyr yw ac y clyw clust
35 hyd y mae iaith gymraeg
36 a hyd y tyf hadeu teg
37 hardd Ifor hoywryw ddefod
38 hir dy gledd heuir dy glod
Da' ap Glm'